GTTB-Landscape-600x400-1.jpeg

Ynglŷn â'r sioe

Cyflwynwyd gan National Theatre Wales TEAM

Wedi’i ddatblygu yn sgil pedair blynedd o drafodaethau, ac wedi’i ysbrydoli gan 25 mlynedd ers trychineb y Sea Empress, mae Go Tell the Bees yn ffilm wedi’i chreu gan, gydag, ac ar gyfer pobl Sir Benfro, sy’n adrodd hanes ein cysylltiad gyda’r byd naturiol a’n gilydd.

Mae tywyllwch ar y gorwel – rhywbeth yn sleifio’n agosach sy’n atseinio duwch a oedd yn cwmpasu’r tir a’r môr 25 mlynedd yn ôl.

Gall y gwenyn, a oedd ar un adeg yn ffrindiau a’n gyfeillion i ni, synhwyro’r perygl ac maent yn paratoi i ffoi. Hebddynt, bydd ecosystem y Ddaear a’n cymunedau’n chwalu.

Mae un plentyn bach sydd â chysylltiad arbennig â’r byd naturiol yn synhwyro’r perygl. Ymunwch ag ef ar daith epig wrth iddo deithio Sir Benfro gyda dim ond pedair awr ar hugain i’n hailgysylltu â natur a gyda’n gilydd i helpu argyhoeddi’r gwenyn i aros.

Mae Go Tell the Bees wedi’i greu ar y cyd gan Naomi Chiffi, Di Ford, Sita Thomas a phobl Sir Benfro

Mae Sea Empress 25 yn ffilm gan Gavin Porter, wedi’i greu ar y cyd â Postcards and Podcasts

Sea Empress 25

Mae amser yn cael ei atalnodi gan eiliadau. Eiliadau sy’n newid pethau. Eiliadau sy’n gwneud inni stopio.

Roedd 8.07pm ar noson y 15fed o Chwefror, 1996, yn un o’r eiliadau hyn. 25 mlynedd yn ddiweddarach, mae arllwysiad olew y Sea Empress yn dal i fod yn ffres yng nghof Sir Benfro.

O syrffwyr i bysgotwyr, gweithwyr purfa olew i gapteiniaid llongau, cadwraethwyr i wleidyddion, dewch i glywed y straeon personol gan y bobl a oedd yno. Gyda delweddau breuddwydiol a cherddoriaeth atmosfferig gan John Lawrence o Gorky’s Zygotic Mynci, mae Sea Empress 25 yn adrodd hanes trychineb amgylcheddol y mae ei heffaith yn dal i gael ei theimlo heddiw.

Mae Sea Empress 25 yn ffilm gan Gavin Porter, a wnaed mewn cydweithrediad â Postcards and Podcasts.

Gwyliwch yma


Credits


Bumble-Bee-copy.jpeg

Wrth wraidd Go Tell the Bees yw’r gobaith y gallwn, drwy wneud, ddysgu oddi wrth ein gilydd, y gallwn adeiladu hyder a sgiliau ac y gallwn brofi drwy’r synhwyrau i gyd. Rydym am i’r cynhyrchiad hwn gael effaith gadarnhaol ar gymunedau. Mae dysgu mewn ffordd weithgar a llawn dychymyg yn hanfodol i hyn.

Gweithred Syml