Hafan | Cyfnod Darganfod | Alffa | Beta | Nodiadau wythnosol | Sioe Dangos a Dweud | Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru


<aside> 🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿 Read in English

</aside>


Beth?


<aside> 🔶 Credwn y gellir gwella gwefan CDPS i wasanaethu ein defnyddwyr yn well.

</aside>

Gan weithio gyda chyflenwr allanol, byddwn yn deall unrhyw welliannau yr hoffai CDPS neu ei ddefnyddwyr allanol gweld yn cael eu gwneud i'r wefan. Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu categoreiddio a'u sgorio, a bydd ôl-groniad blaenoriaeth o welliannau yn cael ei greu.

Yn ystod cyfnod alffa byddwn yn creu prototeipiau i alluogi adborth pellach gan ein rhanddeiliaid, ac i helpu i flaenoriaethu gwelliannau ymhellach.

Yn ystod cyfnod beta, byddwn yn gweithredu nifer o welliannau y cytunwyd arnynt ac yn creu ein gwefan isafswm cynnyrch hyfyw (MVP).

Pam?


Adeiladwyd a lansiwyd gwefan CDPS yn 2020, a byddwn yn cynnal ymchwil defnyddwyr pellach i ddeall sut mae anghenion ein defnyddwyr wedi newid ers hynny, ac i ddarparu gwefan sy’n diwallu’r anghenion hynny’n well.

Mae gan CDPS genhadaeth i:

Cyflymu newid beiddgar a pharhaol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy ganolbwyntio ar ddiwylliant, prosesau a thechnoleg

Er mwyn helpu i alluogi hynny, mae arnom angen gwefan sy’n cefnogi ac yn sail i’r genhadaeth honno.

Mae'n rhaid i ni wella ac alinio ein gwefan i gyd-fynd yn llawn â'n cenhadaeth, tra hefyd yn sicrhau bod ein gwefan yn bodloni'r holl safonau perthnasol sy'n ofynnol.

Pwy?